Jordan Davies (Llun o wefan wrexhamafc.co.uk)
Mae amddiffynnwr ifanc gyda chlwb pêl-droed Wrecsam wedi ymuno â Brighton & Hove Albion yn yr Uwch Gynghrair.

Mae Jordan Davies 18 o Goedpoeth ger Wrecsam wedi bod gyda’r clwb ers yr oedd yn naw oed. Fe ymunodd gyda chlwb pêl-droed Dinas Bangor yn Uwch Gynghrair Cymru ym mis Awst, gan chwarae 14 o gemau iddyn nhw.

Roedd llawer o ddiddoreb ynddo gan nifer o glybiau, ond fe benderfynodd y ddau glwb mai’r cynnig hwn oedd y gorau i bawb.

Mae Jordan Davies wedi cynrychioli Cymru o dan 17 ac wedi ymarfer gyda’r garfan dan 19.

Y  gobaith gan bawb o’r Cae Ras yw bod yn dilyn Neil Taylor a symud yn ei flaen i chwarae i Gymru.