Robert Page (Llun o wefan Northampton Town FC)
Mae cyn-amddiffynnwr Cymru, Robert Page, wedi colli ei swydd yn rheolwr Northampton Town yn yr Adran Gyntaf.

Mae Northampton ar waelodion yr adran ac wedi colli naw o’i un ar ddeg gêm diwetha’.

Roedd Rob Page wrth y llyw am lai nag wyth mis.

Ddydd Sadwrn, fe gododd Rob Page dipyn o helynt trwy ddigrifio’r gêm rhwng Northampton a Bristol Rovers fel un  rhwng “dynion a merched”, wedi i’w dîm ei hun gael crasfa 5-0. Fe ymddiheurodd wedyn am y sylwadau sarhaus i ferched, gan ddweud eu bod nhw’n sylwadau “gwbwl annerbyniol”.

Fe chwaraeodd Rob Page dros Gymru 41 o weithiau rhwng 1996 a 2005, ac fe fu’n gapten un waith, yn erbyn Hwngari yn 2005.