Ben Davies (Llun: Golwg360)
Ben Davies gafodd y gorau o frwydr amddiffynwyr Cymru ar White Hart Lane y prynhawn ma wrth iddo sgorio’i gôl gyntaf i Spurs i sicrhau buddugoliaeth o 2-0 dros James Chester ac Aston Villa.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Spurs drwodd i bedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Gêm ddigon diflas oedd hi yn yr hanner cyntaf, ond roedd y Llundeinwyr yn rhy dda i dîm y Bencampwriaeth yn yr ail hanner, a’r pwysau’n ormod iddyn nhw yn y pen draw.

Daeth gôl Ben Davies ar ôl 71 munud wrth iddo benio ar draws y gôl i guro Sam Johnstone, sydd ar fenthyg yn Villa o Man U.

Naw munud gymerodd hi i Spurs ddyblu eu mantais, gyda Moussa Sissoko yn pasio i Son Heung-min a rwydodd ar ôl 80 munud i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Ar ddiwedd y gêm, dywedodd Ben Davies wrth Match of the Day: “Daeth y gôl ar adeg anodd. Roedden ni’n dechrau mynd yn esgeulus, a gwneud cwpwl o gamgymeriadau.

“Unwaith gawson ni’r gôl gyntaf, llwyddon ni i bara’r gêm wedyn.

“Ry’n ni’n disgwyl lot gennym ein hunain. Rhaid i ni gael meddylfryd i ennill ac fe wnaethon ni heddi.”