Wrecsam 2–1 Woking        
                                                              

Cafwyd tair gôl mewn deg munud ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn wrth i Wrecsam guro Woking o ddwy gôl i un yn y Gynghrair Genedlaethol.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe roddodd John Rooney’r tîm cartref ar y blaen wedi pum munud o’r ail hanner.

Peniodd Fabio Saraiva yr ymwelwyr o Woking yn gyfartal bum munud yn ddiweddarach ond adferodd Robbie Evans fantais y Dreigiau ar yr awr.

Felly yr arhosodd hi tan y diwedd ac mae’r fuddugoliaeth yn ddigon i godi Wrecsam i’r pymthegfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Carrington, Jennings, Smith (Powell 61’), Tilt, Riley, Barry, Rooney, Evans, McLeod, White

Goliau: Rooney 51, Evans 60’

.

Woking

Tîm: Poke, Thomas, Jones, Ralph, Murtagh, Saah (Sutherland 89’), Ugwu, Saraiva, Lewis, Ferdinand (Carter 80’), Hall (Kandi 71’)

Gôl: Saraiva 55’

.

Torf: 3,575