Paul Clement, prif hyfforddwr newydd Abertawe, yn llywio'r tîm am y tro cyntaf yn Hull (Llun: Golwg360)
Mae prif hyfforddwr newydd tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement yn mynnu nad yw gêm yr Elyrch yn erbyn Hull yng Nghwpan FA Lloegr y prynhawn yma’n tynnu ei sylw oddi ei ymdrechion i gadw’r tîm yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Mae Abertawe’n waelod ond un yn y tabl, uwchben eu gwrthwynebwyr y prynhawn yma, sydd newydd benodi Marco Silva yn rheolwr newydd.

Ac mae gan Paul Clement atgofion melys o’r gystadleuaeth gwpan, ar ôl ennill medal enillwyr ddwywaith, yn 2009 a 2010 yn gynorthwyydd i Carlo Ancelotti yn Chelsea.

Dywedodd Paul Clement yn ei gynhadledd gyntaf i’r wasg: “Fe wnaethon ni’r ’dwbwl’ yn 2010 a dw i wrth fy modd gyda Chwpan yr FA fel cystadleuaeth.

“Dw i wedi bod i’r ffeinal a sefyll gyda’r tlws ar y podiwm.”

Ond mae e hefyd yn mynnu bod y gêm heddiw’n gyfle iddo fe i asesu’r garfan yn ystod ffenest drosglwyddo a allai fod yn dyngedfennol i ddyfodol y tîm yn yr Uwch Gynghrair.

“Dyw e ddim yn tynnu fy sylw [oddi ar yr Uwch Gynghrair], mae’n gyfle i fi baratoi’r tîm.

“Mae’n gyfle arall i fi edrych ar y chwaraewyr, y lefel maen nhw wedi cyrraedd a’r hyn sydd angen i ni ei wneud yn nhermau personel i wella’r tîm.

“Ry’n ni eisiau ennill y gêm, ry’n ni’n paratoi at bob gêm gan feddwl hynny. Ond yn fwy na hynny, dw i am weld perfformiad da dros 90 munud.”

Roedd Paul Clement yn yr eisteddle am ran helaeth o’r fuddugoliaeth o 2-1 dros Crystal Palace nos Fawrth, a gafodd ei hysbrydoli gan Alan Curtis.

Ac mae’r prif hyfforddwr newydd yn awyddus i ddatblygu ar y fuddugoliaeth honno.

“Yn erbyn Palace, perfformiad 45 munud gawson ni ac mae angen i ni ymestyn hynny dros gyfnod hirach.”

Paul Clement yw’r trydydd bos y tymor hwn, yn dilyn cyfnodau aflwyddiannus i Francesco Guidolin a Bob Bradley.

Ond mae e’n mynnu y gall e arwain y tîm i lwyddiant o fath y tymor hwn.

“Mae’n mynd i fod yn llwyddiant os gallwn ni sicrhau bod y tîm yn chwarae pêl-droed da – y math o bêl-droed roedd pobol wedi dod i arfer â’i weld pan oedd Roberto Martinez, Paulo Sousa a Brendan Rodgers yma.

“Dw i’n credu bod fy syniadau am bêl-droed yn eitha tebyg i’w rhai nhw o ran arddull, ac mae’r ffans wedi mwynhau’r math yna o bêl-droed.

“Ond efallai nad yw hynny wedi bod yn bresennol dros y blynyddoedd diwethaf.

“Ond dw i eisiau ennill gemau a dw i’n credu bod ffordd arbennig y dylid gwneud hynny.”