Mickey Thomas yn cymryd y gic rydd yn 1992
Mae clwb pêl-droed Wrecsam ar hyn o bryd yn cael trafferthion yn waelodion y Vanarama Premier League, y bumed gynghrair bêl-droed. Ond chwarter canrif yn ôl i’r wythnos hon, mi wnaethon nhw guro’r cewri, Arsenal, ar y Cae Ras yn nhrydedd rownd cwpan FA Lloegr.

Roedd tîm Arsenal yn llawn sêr gyda chwaraewyr rhyngwladol penigamp ac amddiffyn enwog ar y pryd – Tony Adams, Nigel Winterburn, David O Leary Lee Dixon, a’r gôl geidwad David Seaman.

Mae nifer yn cofio’r gêm am gic rydd syfrdanol Mickey Thomas wnaeth unioni’r sgôr, ond mae’n gwestiwn cwis pwy sgoriodd yr ail…

Yn sefyll ger Mickey Thomas cyn iddo gymryd y gic holl bwysig oedd yr hogyn o Gaernarfon, Waynne Phillips. Chwaraeodd dros 200 o gemau i’r clwb rhwng 1989-2003 ac mae wastad yn hoff o siarad am gêm Ionawr 4, 1992.

Waynne yn cofio’n ôl

“Pan ddaeth yr enwau allan o’r het, yn sicr oedd pawb yn ein carfan eisio bod yn rhan o’r tîm,” meddai wrth golwg360.

“Roedd 91 safle rhyngddan  ni a’r pencampwyr o’r tymor cynt. Roedd tîm hyfforddi gwych gan Wrecsam sef Brian Flynn, Joey Jones a Kevin Reeves, a’r noson cynt mi arhoson ni mewn gwesty – dim yr arfer – ac mi gawson ni hanner peint o lager yr un.

“Ar fore’r gêm roedd pawb yn nerfus, ond pan gerddon ni allan ar y cae a gweld y Kop yn llawn, mi deimlais yn well. Roedd cymysgiad o brofiad, hogiau lleol ac ifanc yn y tîm, yn sicr doedd ganddon ni ddim i’w golli.”

Arsenal ar y blaen

Fe sgoriodd Arsenal cyn yr egwyl drwy Alan Smith, ac yn ôl adroddiadau’r gêm fe ddylen nhw fod wedi bod ar y blaen o fwy na’r un gôl honno.

“Mi ddeudodd y rheolwr wrthan  ni ein bod ni’n dal yn y gêm,” meddai Waynne Philips, “a pham gawson ni’r gic rydd y fi oedd fod i gymryd hi – wna’ i ddim ailadrodd be ddeudodd Mickey – ond dw i’n falch na fo gymerodd hi. A’r pechod ydy mai Steve Watkin sgoriodd y gôl fuddugol… ond mae pawb yn cofio’r gêm am gôl Mickey.

“Hefyd mae rhaid cofio pe bai’r gêm wedi gorffen yn gyfartal, mi fuaswn i wedi bod yn ddigon hapus. O’n i eisio chwarae’n Highbury, ac mi gafodd Wrecsam arian ychwanegol am yr ail gêm. Roedd y chwiban ola’ yn hir yn dod, ond mi oedd cryn dipyn o ddathlu ar ôl y gêm.”

Cadw’r ffydd

Er bod Wrecsam â thrafferthion y tymor hwn, mae Waynne Phillips yn byw mewn gobaith bod dyddiau da am ddod yn ôl i’r Cae Ras.

Mae’r cyn chwaraewr, Dean Keates, wrth y llyw rŵan, a’r gobaith yw y byddan nhw’n gorosei’r tymor hwn, meddai.

Fe fydd Waynne Phillips a gweddill tîm 1992 yn cyfarfod nos Wener am aduniad, er mwyn cael cyfle i sgwrsio a mwynhau’r atgofion o’r diwrnod.