Paul Clement
Mae disgwyl i Paul Clement gael ei gadarnhau’n swyddogol heddiw yn rheolwr nesa’ clwb pêl-droed Abertawe.

Bydd yn arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner gan ddod y trydydd rheolwr yn ystod y tymor i’r Elyrch gan olynu Francesco Guidolin a Bob Bradley.

Ar hyn o bryd mae Paul Clement, 44 oed, yn rheolwr cynorthwyol Bayern Munich, a bu’n rheolwr clwb pêl-droed Derby am wyth mis cyn cael ei ddiswyddo ym mis Chwefror y llynedd pan oedd Derby yn bumed yn y bencampwriaeth.

Mae Abertawe yn wynebu cyfnod anodd ar hyn o bryd ac ar waelod y tabl, ond fe fyddan nhw’n herio Crystal Palace heno yng ngêm yr Uwch gynghrair ym Mharc Selhurst, Llundain.