Abertawe 0–3 Bournemouth
Mae wythnos wael Abertawe’n parhau wedi iddynt golli ar y Liberty yn erbyn Bournemouth yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn.
Ar ôl cael cweir gan West Ham ddydd Llun a diswyddo’r rheolwr, Bob Bradley, ddiwrnod yn ddiweddarach, fe gollodd yr Elyrch gartref eto o dan ofal dros dro Alan Curtis ac maent yn gorffen 2016 ar waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i Benik Afobe. Gwyrodd amddiffynnwr Abertawe, Jordi Amat, groesiad Ryan Fraser yn erbyn ei bostyn ei hun ac adlamodd y bêl yn garedig i Afobe am gôl syml.
Dyblodd yr ymwelwyr eu mantais yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner ac roedd Fraser yn ei chanol hi eto, yr Albanwr yn rhwydo wedi cyd chwarae da rhwng Junior Stanislas a Jack Wilshere.
Bu rhaid i Bournemouth aros tan ddau funud o ddiwedd y naw deg cyn i Josh King sicrhau’r tri phwynt gyda’r drydedd gôl, yr eilydd yn rhwydo wedi pas dreiddgar Charlie Daniels.
Dechreuodd Abertawe’r gêm ar waelod y tabl yn dilyn gêm gyfartal Hull yn erbyn Everton nos Wener, ac yno mae’r Elyrch yn aros yn dilyn y canlyniad siomedig hwn.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Amat, Mawson, Taylor, Ki Sung-yueng, Britton (Cork 66’), Dyer, Fer (Barrow 38’), Sigurdsson, Llorente (McBurnie 57’)
Cardiau Melyn: Ki Sung-yueng 1’, Amat 34’
.
Bournemouth
Tîm: Boruc, Francis, Cook, Ake, Daniels, Arter, Surman (Gosling 89’), Fraser (King 73’), Wilshere, Stanislas (Smith 73’), Afobe
Goliau: Afobe 25’, Fraser 45+1’, King 88’
.
Torf: 20,316