Bob Bradley - wedi mynd (Llun Golwg360)
Am y trydydd tro eleni, mae clwb pêl-droed Abertawe’n chwilio am reolwr newydd.

Fe ddaeth y cyhoeddiad neithiwr fod yr Americanwr Bob Bradley wedi cael y sac ar ôl 85 diwrnod, gan ennill dim ond dwy gêm mewn 11 a gweld ei dîm yn ildio 29 o goliau, gan gynnwys 18 ym mis Rhagfyr.

Mae penaethiaid y clwb wedi addo gwneud penderfyniad o fewn y 48 awr nesa’, sy’n awgrymu eu bod eisoes wedi paratoi’r ffordd, a’r Elyrch un safle o waelod yr Uwchgynghrair.

Yr hyfforddwr a’r cyn-chwaraewr, Alan Curtis, fydd yn cymryd yr awennau tros dro am y trydydd tro eleni – fel mae’n dweud ei hun, “yn unig un sy’n gwybod ble mae’r tegell”.

Pwy nesa?

Mae rhai cefnogwyr eisiau gweld Alan Curtis yn y swydd yn barhaol ond mae wedi gwrthod y syniad yn y gorffennol.

Cyn-seren Man Utd a Chymru, Ryan Giggs, yw’r ffefryn cynnar gan y bwcis, er nad oes ganddo brofiad o reoli ac mae ennill brwydrau ar waelod y tabl yn cael ei ystyried yn grefft arbennig.

Enw arall posib yw Nigel Pearson a lwyddodd i achub Leicester City rhag cwympo y tymor cyn iddyn nhw ennill yr Uwchgynghrair y llynedd – fe adawodd Derby County ynghynt eleni ar ôl ffrae gyda’r perchnogion.

Y pwysau’n cynyddu

Roedd y pwysau wedi bod yn cynyddu ar Bob Bradley ers iddo ddisodli Francesco  Guidolin ychydig wythnosau ar ôl dechrau’r tymor.

Yr wythnos hon, fe ddywedodd y cyn chwaraewr rhyngwladol o Abertawe, John Hartson, na fyddai’r Americanwr wedi cael dod ar gyfyl clwb fel Abertawe onibai fod perchnogion y clwb hefyd yn Americanwyr.

Mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth ers iddyn nhw brynu mwyafrif cyfrannau’r clwb gan wneud ffortiwn i’r cyfarwyddwyr lleol, gan gynnwys y Cadeirydd Huw Jenkins a oedd, hyd hynny, wedi cael ei ganmol gan y cefnogwyr.

Ond, er fod ganddyn nhw bumed rhan o’r cyfrannau o hyd, maen nhw’n cwyno nad ydyn nhw’n cael gwybod am ddatblygiadau yn y clwb nac yn cael llais.

Y drwg yn y caws

Fe ddechreuodd dirywiad Abertawe tua’r adeg yma y llynedd, pan ddigwyddodd rhywbeth i dorri’r berthynas rhwng y rheolwr llwyddiannus, Garry Monk a’i chwaraewyr.

Ar ôl dechrau da i’r tymor diwetha’, roedd Abertawe erbyn mis Rhagfyr mewn peryg o gwympo ac fe gafodd Guidolin ei benodi ym mis Ionawr.

Fe lwyddodd i gadw’r tîm yn yr Uwchgynghrair ond tros yr haf fe gafodd angor yr amddiffyn, Ashley Williams, ei werthu ac fe gollodd y perchnogion y cyfle i brynu’r hen ffefryn, Joe Allen, yn ôl.

Ar ben hynny, mae arddull ddeniadol yr Elyrch wedi cael ei cholli a’r clwb yn methu sgorio nag amddiffyn.