Fe fydd gêm bêl-droed bwysig yn digwydd ddydd Mawrth (Rhagfyr 27) rhwng dau glwb sy’n gobeithio bod cyfnodau gwell ar y gorwel.

Gêm ddarbi ydi hi rhwng Tref Caernarfon a Phorthmadog yw’r gêm yng nghyrair Huws Gray, ac mae’n digwydd ar yr Oval, cae’r Cofis.

Gyda Chaernarfon yn gobeithio cael dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair ar ôl siom yr ha’, maen nhw hefyd yn gwybod fod gwaith mawr o’u blaenau ar ôl colli i Brestatyn ddydd Sadwrn diwetha’. Mae bwlch o naw pwynt rhwng y ceffylau blaen Prestatyn a’r cofis.

Mae tîm y Traeth hefyd yn gobeithio cau’r bwlch. Ar hyn o bryd, mae Porthmadog yn y pedwerydd safle, gyda thymor a chanlyniadau eitha’ rhwystredig y tu ôl iddyn nhw.

Edrych ymlaen

Mae Paul Evans, Swyddog y Wasg, Clwb Pêl-droed Caernarfon yn edrych mlaen at y gêm, fel arfer.

“Gyda chymaint o gysylltiadau rhwng y clybiau, yn enwedig rhwng y cefnogwyr, ac yn cynnwys cyn chwaraewyr Caernarfon yn gwisgo lliwiau Port y dyddiau yma, mae’r dywediad ‘darbi lleol gyfeillgar’ yn un berffaith i ddisgrifio’r gemau rhwng y ddau glwb.

“Mae yna rywbeth sbeshal iawn am bêl-droed dros y Wŷl, ac rydan ni’n gweld y gêm yma fel yr un fwya’ yn yr ardal dros y cyfnod. Rydan ni’n siŵr fydd yna wledd o bêl-droed i ddiddanu be’ sydd yn siŵr o fod yn dorf enfawr.”

Heidio draw i Dre

Fe fydd nifer fawr o gefnogwyr yn heidio o Borthmadog i Gaernarfon i weld y ddarbi, gyda chadeirydd y clwb yn trefnu cludiant i’r cefnogwyr.

“Mae’r gêm dydd Mawrth yn un anferth i’r ardal,” meddai rheolwr Porthmadog, Craig Papirnyk.

“Dw i’n disgwyl dipyn o dorf, fydd yna ddim pwysau ar fy nhîm i, mi awn yno a mwynhau’r achlysur a gobeithio mwynhau’r gêm, a pherfformio fel dw i’n gwybod gall fy nhîm a dod a’r tri phwynt yn ôl i Port.”