Mae cymdeithasau pêl-droed pedair gwlad Prydain yn ystyried lansio apêl ar y cyd yn erbyn eu dirwyon am arddangos neu wisgo pabïau fis diwetha’.

Daeth i’r amlwg na all Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon lansio apêl heb gefnogaeth gwledydd eraill Prydain, sydd hefyd wedi cael eu cosbi gan FIFA.

Cafodd Lloegr ddirwy o £35,308, tra bo’r Alban wedi cael dirwy o £15,692 ar ôl i chwaraewyr y ddau dîm wisgo’r pabi ar fand ar eu breichiau yn ystod gêm rhwng y ddwy wlad yn Wembley ar 11 Tachwedd.

Cafodd Cymru ddirwy o £15,692 a Gogledd Iwerddon £11,769 am arddangos pabïau yn eu caeau.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi datgan eu bwriad i apelio, tra bo Cymru a’r Alban yn aros am eglurhad gan FIFA cyn penderfynu beth fydd eu cam nesaf.

Ond oherwydd bod dirwy Gogledd Iwerddon yn cyfateb i 15,000 Franc y Swistir neu lai, does ganddyn nhw mo’r hawl i apelio.

Fe fyddan nhw’n cwrdd nos Fercher i drafod y sefyllfa, ac mae lle i gredu y gallen nhw uno â gwledydd eraill Prydain i lansio apêl yn erbyn cyfanswm dirwy’r pedair gwlad gyda’i gilydd.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon mewn datganiad eu bod yn “siomedig” am y gosb, ac y byddan nhw’n ceisio cyngor cyfreithiol.

Mewn datganiad, dywedodd pwyllgor disgyblu FIFA eu bod nhw’n parchu hanes a thraddodiad Sul y Cofio, ond fod ganddyn nhw reolau pendant am arddangos ‘arwyddion gwleidyddol neu grefyddol’.