West Brom 3–1 Abertawe        
                                                      

Sgoriodd Salomon Rondon hatric mewn tri munud ar ddeg wrth i West Brom guro Abertawe yn yr Uwch Gynghrair nos Fercher.

Sgorioodd y blaenwr o Feneswela dri pheniad ail hanner yn yr Hawthorns ac er i Wayne Routledge dynnu un yn ôl i’r Elyrch, rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe agorodd Rondon y sgorio bum munud wedi’r egwyl gyda pheniad o gic rydd Matt Phillips.

Peniodd ei ail o groesiad Chris Brunt ar yr awr cyn rhwydo ei drydedd â’i ben ddau funud yn ddiweddarach wedi gwaith da Phillips ar y chwith.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r ymwelwyr pan rwydodd Routledge ar yr ail gynnig wedi i Ben Foster arbed cynnig gwreiddiol Borja Baston ond dal eu gafael a wnaeth y Baggies.

Mae’r canlyniad yn gadael yr Elyrch yn y tri isaf, yn ddeunawfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

West Brom

Tîm: Foster, Nyom, McAuley, Olsson, Brunt, Fletcher, Yacob, Chadli (McClean 71’), Morrison (Gardner 71’), Phillips, Rondon (Robson-Kanu 85’)

Goliau: Rondon 50’, 60’, 63’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, Mawson, Amat, Taylor, Fulton, Britton (Cork 72’), Routledge, Sigurdssson, Montero (Barrow 64’), Llorente (Baston 72’)

Gôl: Routledge 78’

.

Torf: 21,467