Gareth Bale (Llun: Manu Fernandez/PA)
Daeth Gareth Bale yn chweched ar restr y Ballon d’Or o chwaraewr pêl-droed gorau’r byd, wrth i’w gyd-chwaraewr o Real Madrid, Cristiano Ronaldo, gipio’r teitl am y bedwaredd flwyddyn.

Cafodd Cristiano Ronaldo ei anrhydeddu wedi iddo ddod i’r brig ym mhleidlais 173 o newyddiadurwyr ar draws y byd.

Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i’r chwaraewr 31 oed wrth i Real Madrid ddod yn bencampwyr Cwpan Ewrop am yr unfed tro ar ddeg gan guro Atletico ym mis Mai.

Yna ymhen deufis, llwyddodd Portiwgal i ennill pencampwriaeth Ewro 2016 am y tro cynta’.

Mae Cristiano Ronaldo wedi llwyddo i sgorio 40 gôl mewn 52 gêm i’w glwb a’i wlad eleni.

Roedd 30 o chwaraewyr wedi’u henwebu ar gyfer rhestr fer y wobr ac enillydd y llynedd, Lionel Messi o’r Ariannin, ddaeth yn ail.