Gall tîm pêl-droed Abertawe aros yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall, yn ôl Leon Britton.
Roedd y capten yn ymateb ar ôl buddugoliaeth yr Elyrch o 3-0 dros Sunderland yn Stadiwm Liberty brynhawn dydd Sadwrn, sy’n golygu eu bod nhw wedi codi allan o’r safleoedd disgyn.
Yn ôl y chwaraewr canol cae, mae eu perfformiad yn dangos eu bod nhw’n gallu brwydro pan fo angen, ac y bydd hynny’n werthfawr wrth i’r tymor fynd rhagddo.
Cyn ddoe, roedd yr Elyrch wedi ildio naw gôl mewn dwy gêm, ond fe lwyddon nhw i gadw llechen lân yn erbyn y tîm o ogledd-ddwyrain Lloegr, sydd hefyd yn brwydro i gadw eu lle yn yr Uwch Gynghrair.
Tan ddoe, doedd Leon Britton ddim wedi chwarae ers mis oherwydd anaf i’w goes.
Dywedodd: “Mae gyda ni’r cymeriad a’r ysbryd yn y tîm.
“Mae pobol yn cysylltu Abertawe â phêl-droed wych, ond dros y blynyddoedd ry’n ni wedi dangos y gallwn ni frwydro am ganlyniadau hefyd.
“Weithiau fydd hi ddim yn bert, ond dyna sy’n rhaid i chi ei wneud weithiau yn y gynghrair hon er mwyn ennill pwyntiau.
“Does gyda fi ddim pryderon am y garfan yn nhermau brwydro ac ysbryd. Does ond rhaid i chi edrych ar y gêm yn erbyn [Crystal] Palace.
“Mae gyda ni gymeriadau cryf yn yr ystafell newid, bois â phrofiad, ac mae angen i ni ddefnyddio hynny er mwyn sicrhau ein bod ni’n cadw draw o’r tri isaf.”