Mae clwb Uwch Gynghrair arall wedi cadarnhau eu bod yn rhan o ymchwiliadau i honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol yn y byd pêl-droed.

Dywedodd y clwb Queens Park Rangers o orllewin Llundain eu bod yn ymwybodol o honiadau yn ymwneud â’r cyn-brif sgowt, Chris Gieler, a’u bod yn cydweithredu gyda’r ymchwiliadau.

Gadawodd Chris Gieler QPR yn 2003, a bu farw yn 2004.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi dweud y bydd yr ymchwiliadau yn sicrhau bod unrhyw fethiannau gan awdurdodau neu glybiau “yn dod i’r fei.”

Ac mae wedi dod i’r amlwg fod cyfreithiwr arall wedi’i benodi i arwain yr ymchwiliad o ganlyniad i “gynnydd yn sgôp yr adolygiad,” sef Clive Sheldon QC.

Tri llu heddlu o Gymru

Mae tri o luoedd heddlu Cymru wedi cadarnhau eu bod hwythau’n ymchwilio i honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol, sef Heddlu De Cymru, Dyfed Powys a Gogledd Cymru.

Mae bron i 800 o bobol wedi dweud eu bod wedi cael eu cam-drin, y mwyafrif yn y 70au a’r 80au, ar ôl i ymddiriedolaeth newydd annibynnol gael ei sefydlu er mwyn cefnogi dioddefwyr.