Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) wedi cadarnhau heddiw fod rheolwr tîm dan 21 a’r timau canolradd yn gadael ei rôl.

Geraint Williams sydd wedi bod wrth y llyw am bedair blynedd a hanner, ond mae wedi penderfynu peidio ag adnewyddu ei gytundeb.

“Mae wedi bod yn fraint i weithio dros fy ngwlad dros y pedair blynedd a hanner,” meddai Geraint Williams.

“Mae pawb wedi chwarae eu rhan ar ac oddi ar y cae. Rwy’n ymfalchïo yn ein gwaith a’r datblygiad o’r holl garfanau canolradd.”

Yn y cyfamser, mae hyfforddwr cynorthwyol y timau canolradd hefyd wedi gadael ei rôl, sef David Hughes, ac fe fydd ef yn ymuno ag Academi Pencampwriaeth clwb Aston Villa.

Mae’r Gymdeithas wedi diolch a dymuno’n dda i’r ddau.

Yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf, collodd y tîm dan 21 o drwch blewyn rhag cymhwyso ar gyfer pencampwriaeth UEFA 2017, ac yn yr un modd collodd y garfan dan 19 hefyd o drwch blewyn rhag cymhwyso ar gyfer rownd elitaidd pencampwriaeth Ewro dan 19.