Joe Allen (llun: CBDC)
Fe fydd chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen ar gael i Stoke pan fyddan nhw’n croesawu Burnley heddiw.
Fe gollodd Joe Allen y fuddugoliaeth yn erbyn Watford o ganlyniad waharddiad ac mae disgwyl iddo hawlio ei le yn ôl y tîm.
Mae Rheolwr Stoke, Mark Hughes yn awyddus i gynnal ar y momentwm diweddar yn erbyn Burnley, gan golli unwaith yn unig yn yr wyth gêm ddiwethaf.
Dywedodd Mark Hughes, Rydym yn ôl ar y ffordd. Ar ddechrau’r flwyddyn, yr oeddem yn edrych ar pwyntiau y gallwn ni ennill yn realistig ac mi rydym wedi llwyddo hyd yma.”
“Rydym wedi cael gemau anodd, ynghyd â pherfformiad gwael yn erbyn Crystal Palace.”