Gareth Bale yn ymarfer i Gymru (llun Golwg360)
Mae chwaraewr Cymru, Gareth Bale, ymhlith 55 sy’n cael eu hystyried ar gyfer ‘tîm gorau’r byd’.

Ond, ar yr un pryd, mae un adroddiad o Sbaen yn awgrymu y gallai seren Real Madrid fod allan gydag anaf am bum mis.

Fe fyddai hynny’n golygu ei fod yn colli gêmau nesa’ Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd – sy’n digwydd ymhen pedwar mis.

‘Hyderus’

Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd chwaraewr gorau’r wlad yn ôl erbyn hynny a phedwar mis oedd yr amcangyfri’ cyn hyn.

Ond fe fyddai hynny hyd yn oed yn golygu  na fyddai Gareth Bale wedi cael llawer o gyfle i chwarae cyn y gêmau mawr.

Fe gafodd anaf difrifol i’w ffêr mewn gêm glwb yn erbyn Sporting Lisbon yng Nhgynghrair Pencampwyr Ewrop.

Yn ôl Real Madrid, fe gafodd lawdriniaeth lwyddiannus ynghynt yr wythnos yma ac mae Gareth Bale ei hun wedi anfon neges at gefnogwyr yn dweud y bydd yn ôl “cyn gynted â phosib”.