Abertawe 5–4 Crystal Palace         
                                                

Sgoriodd Fernando Llorente ddwy gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau wrth guro Crystal Palace mewn gêm anhygoel ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Elyrch dair gôl i un ar y blaen gyda chwarter awr i fynd cyn i Palace daro nôl gyda thair gôl. Ond yn ôl y daeth Abertawe gyda’r Sbaenwr yn dod oddi ar y fainc i gipio tri phwynt dramatig gyda dwy gôl hwyr.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi deunaw munud pan gafodd Wilfried Zaha y gorau o Neil Taylor a Federico Fernandez cyn taro cefn y rhwyd.

Unionodd Gylfi Sigurdsson bethau i’r Elyrch gyda chic rydd dda ddeg munud cyn yr egwyl ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Sgoriodd Leroy Fer ddwy gôl mewn dau funud toc wedi’r awr ac roedd hi’n ymddangos fod Abertawe’n anelu am dri phwynt eithaf cyfforddus. Roedd gan Palace syniadau gwahanol serch hynny.

Roedd yr ymwelwyr yn ôl yn y gêm wedi i James Tomkins fanteisio ar amddiffyn gwael i sgorio gyda chwarter awr yn weddill. Ac roedd y sgôr yn gyfartal wyth munud o’r diwedd wedi gôl i’w rwyd ei hun gan Jack Cork.

Manteisiodd Christian Benteke ar ragor o amddiffyn gwael i roi’r ymwelwyr ar y blaen ddau funud yn ddiweddarach ac roedd yr Elyrch ar ei hôl hi gyda phum munud i fynd.

Roedd digon o amser ar ôl i Llorente newid y gêm gyda dwy gôl yn yr amser brifo. Rhwydodd y gyntaf wrth wyro ergyd ergyd Sigurdsson heibio Wayne Hennessey cyn ennill y gêm i’w dîm gyda gôl flêr yn dilyn traed moch yng nghwrt cosbi Crystal Palace.

Mae’r fuddugoliaeth gofiadwy, un gyntaf Bob Bradley wrth y llyw, yn codi Abertawe o waelod tabl yr Uwch Gynghrair, dros Sunderland i’r pedwerydd safle ar bymtheg.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton (Montero 86’), Fernandez, Amat, Taylor, Cork, Fulton, Fer, Barrow (Rangel 80’), Sigurdsson, Routledge (Llorente 66’)

Goliau: Sigurdsson 36’, Ferr 66’, 68’, Llorente 90+1’, 90+3’

Cardiau Melyn: Routledge 22’, Cork 27’, Naughton 72’, Fulton 86’

.

Crystal Palace

Tîm: Hennessey, Ward, Dann, Tomkins, Kelly (Fryers 73’), Zaha, Cabaye, McArthur (Sako 82’), Puncheon, Benteke, Wickham (Townsend 52’)

Goliau: Zaha 19’, Tomkins 75’, Cork [g.e.h.] 82’, Benteke 84’

Cardiau Melyn: Hennessey 42’, Townsend 54’, Puncheon 67’, Kelly 68’, Cabaye 90+6’

.

Torf: 20,276