Andy Legg (Llun oddi ar wefan Clwb Pêl-droed Bangor)
Mae clwb pêl-droed Bangor yn chwilio am reolwr newydd, a hynny wedi ymadawiad Andy Legg ar ôl dim od pedwar mis yn y gwaith.

Mae’r clwb wedi gwneud datganiad ar ei wefan yn dweud mai “rhesymau ymarferol ac amgylchiadau perfonol” oedd yn gyfrifol nad oedden nhw’n medru parhau i gyflogi Andy Legg

Fel un oedd yn byw yn Swydd Nottingham ac yn treulio tair awr yn teithio i’w waith yn Stadiwm Nantporth, roedd Andy Legg wedi gofyn am gael gweithio’n ddi-gytundeb i Fangor tan y Nadolig eleni, ac ail-edrych ar ei sefyllfa yn y flwyddyn newydd.

“Mae’r clwb wedi monitro’r sefyllfa’n ofalus, a dydi hi ddim yn ymddangos fod yna lawer o newid wedi bod yn y sefyllfa,” meddai Clwb Pêl-droed Bangor ar ei wefan ben bore Mercher. “Rydan ni wedi penderfynu, er mwyn trio cyrraedd ein nod ar gyfer y tymor nesa’, ein bod angen rheolwr sy’n gallu gweithio’n llawn amser.

“Mae’r clwb yn diolch yn fawr i Andy Legg am ei wasanaeth, ac yn dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.”