Y diweddar Len Allchurch (Llun oddi ar wefan Clwb Pêl-droed Abertawe)
Mae cyn-asgellwr timau pêl-droed Abertawe a Chymru, Len Allchurch wedi marw’n 83 oed.

Fe sgoriodd 60 o goliau mewn 347 o gemau yn ei ddau gyfnod gyda’r Elyrch rhwng 1950 a 1971.

Roedd yn frawd iau i Ivor Allchurch, un arall o fawrion y clwb a’r tîm cenedlaethol. Yn gapten ar dîm Ysgolion Cymru, ymunodd e ag Abertawe yn 1950, gan ddod yn aelod pwysig o’r garfan erbyn tymor 1954-55.

Fe dreuliodd saith tymor yn y tîm cyntaf cyn symud i Sheffield United am £14,000 yn 1961. Aeth ymlaen i chwarae i Stockport County am bedair blynedd cyn dychwelyd i Abertawe lle treuliodd weddill ei yrfa tan ei ymddeoliad yn 1971.

Enillodd 11 o gapiau dros Gymru, gan ennill lle yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd yn 1958.