Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau wrth golwg360 fod Paul Williams wedi ei benodi’n is-reolwr.

Mae’r cysylltiadau di-ri’ rhwng Clwb Pêl-droed Abertawe ag America yn parhau gyda phenodiad Paul Williams, Sais a chwaraeodd dros glwb Richmond Kickers yn ystod ei yrfa.

Dau Americanwr, Steve Kaplan a Jason Levien yw perchnogion newydd y clwb, Chris Pearlman yw Prif Swyddog Gweithredol y clwb a Bob Bradley yw’r rheolwr.

Dydy hi ddim yn gyfrinach bod Bradley wedi bod yn chwilio am gynorthwyydd profiadol ers iddo gael ei benodi’n olynydd i Francesco Guidolin yn Stadiwm Liberty.

Roedd Williams wrth y llyw yn Nottingham Forest am 10 gêm y tymor diwethaf cyn cael ei ddisodli gan Phillipe Montanier.

Ers hynny, fe fu’n gweithio gyda thîm dan 20 Lloegr ers i Gareth Southgate gael ei benodi’n rheolwr ar dîm cenedlaethol Lloegr.

Ac roedd Williams yn cael ei gysylltu â swydd hyfforddwr Man U.

Pwy yw Paul Williams?

Yn ystod ei yrfa, chwaraeodd Williams fel amddiffynnwr a chwaraewr canol cae i Derby, Coventry, Southampton a Stoke cyn gorffen ei yrfa yn yr Unol Daleithiau.

Fe dreuliodd gyfnod yn is-hyfforddwr y Fredericksburg Gunners rhwng 2006 a 2007 cyn cyfnodau’n is-reolwr Brentford ac yn rheolwr Nottingham Forest.

Williams yw’r ail aelod o staff i ymuno â thîm hyfforddi Abertawe, yn dilyn penodi Pierre Barrieu yn hyfforddwr ffitrwydd fis diwethaf.

Mae Bradley yn dal heb fuddugoliaeth yn yr Uwch Gynghrair, ac mae’r Elyrch yn bedwerydd ar bymtheg yn y tabl.

Byddan nhw’n teithio i Barc Goodison ddydd Sadwrn i herio Everton a’u cyn-gapten Ashley Williams.

‘Cyffrous’

Mewn datganiad, dywedodd Bob Bradley: “Dw i’n gyffrous o gael y cyfle i weithio gyda Paul.

“Fe fu trafodaethau o’r cychwyn am ychwanegu un aelod arall o staff fel y byddai gyda ni un hyfforddwr arall ar y cae bob dydd.

“Roedd y mis cyntaf yma’n brysur iawn ond mae’r toriad yma am y gemau rhyngwladol wedi rhoi’r cyfle i ni ddirwyn y trafodaethau i ben ac rydym yn falch fod Paul yn gallu ymuno â ni.

“Cafodd e dipyn o brofiad yn yr Uwch Gynghrair fel chwaraewr, ac mae e hefyd wedi gwneud tipyn o waith da fel hyfforddwr.

“Er enghraifft, fe wnaeth e helpu i feithrin chwaraewyr da iawn yn ystod ei gyfnod yn Southampton, ac mae popeth dw i wedi’i glywed am y gwaith wnaeth e gyda Lloegr wedi bod yn bositif.

“Mae e wedi gwneud tipyn o hyfforddi ar y cae, a dyna’r oedden ni’n chwilio amdano. Dw i’n teimlo’n gyffrous fod gyda fi foi arall ar y cae wrth fy ochr i ac Alan Curtis.”