Mae adroddiad newydd yn mynegi pryder am ddiffyg rheolwyr a hyfforddwyr pêl-droed croenddu, Asiaidd ac o gefndiroedd lleiafrifol eraill.

Daw’r adroddiad ddiwrnod ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod Clwb Pêl-droed Abertawe ar fin penodi Paul Williams, hyfforddwr croenddu, yn is-reolwr i gynorthwyo Bob Bradley.

Mae’r adroddiad gan y Sports People yn dweud bod pobol groenddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig eraill o dan anfantais wrth geisio am swyddi gyda rhai o’r clybiau mwyaf yn y Gynghrair Bêl-droed.

Cafodd yr adroddiad ei lunio ar y cyd â Phrifysgol Loughborough a rhwydwaith gwrth-hiliaeth FARE.

Er bod gan chwarter chwaraewyr proffesiynol y Gynghrair Bêl-droed groen du, dim ond 25 o reolwyr, is-reolwyr neu hyfforddwyr sydd â chroen du neu’n Asiaidd.

Yn ôl awduron yr adroddiad, dyw’r cynnydd yn y nifer o chwaraewyr croenddu neu o gefndiroedd Asiaidd neu leiafrifoedd eraill ddim yn golygu bod yna gynnydd yn y nifer o reolwyr, is-reolwyr neu hyfforddwyr o’r cefndiroedd hynny dros y blynyddoedd diwethaf.

“Os nad oes gweithredu,” meddai’r adroddiad, “yna rydym yn wynebu’r un sefyllfa am ddegawdau i ddod.”

Brighton a Carlisle yn arwain y ffordd 

Dau reolwr croenddu yn unig sydd yn y Gynghrair Bêl-droed, sef Chris Hughton yn Brighton a Keith Curle yng Nghaerliwelydd. Cafodd y trydydd, Jimmy Floyd Hasselbaink ei ddiswyddo gan QPR ers i’r data ar gyfer yr adroddiad gael ei lunio.

Dim ond 17 allan o 92 o glybiau’r Gynghrair Bêl-droed sydd â rheolwr, is-reolwr neu hyfforddwr croenddu, Asiaidd neu o leiafrif ethnig arall ar hyn o bryd.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi buddsoddi £1.4 miliwn er mwyn codi’r niferoedd dros gyfnod o bum mlynedd.

Ond maen nhw wedi cael eu beirniadu am fethu â darparu data am y niferoedd sy’n cael eu hyfforddi i ddod yn rheolwyr neu hyfforddwyr ar hyn o bryd.