Mae capten tîm pêl-droed Abertawe, Leon Britton wedi cyfaddef fod hyder y chwaraewyr yn isel, ond mae’n dweud eu bod nhw’n barod i frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Mae’r Elyrch yn gyfartal â Sunderland ar 11 pwynt ar waelod y tabl, ac maen nhw wedi cael seibiant y penwythnos hwn oherwydd gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Ond byddan nhw’n teithio i Everton ddydd Sadwrn nesaf cyn croesawu Crystal Palace i Stadiwm Liberty ar 26 Tachwedd.

Dywed Britton y bydd y chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn trafod eu sefyllfa cyn y penwythnos nesaf.

“Ers i ni ddod i mewn i’r Uwch Gynghrair, ry’n ni wedi gwneud yn dda iawn, gan orffen mor uchel ag wythfed ac ennill Cwpan y Gynghrair.

“Ond ar hyn o bryd dyn ni ddim yn gwneud yn dda ac yn stryglo.

“Mae angen i ni berfformio’n well fel chwaraewyr ac yn bwysicach fyth, cael pwyntiau.

“Mae’r hyder yn isel, does dim amheuaeth am hynny. Ond pan ydych chi’n ennill, mae’ch hyder chi’n cynyddu.

“Mae’n gyfnod anodd i ni ond rhaid i chi aros yn broffesiynol a gweithio’n galed wrth ymarfer er mwyn sicrhau eich bod chi’n barod i wneud popeth allwch chi i helpu’r tîm i ennill pwyntiau.”

“Dim ond trwy sefyll gyda’n gilydd y gallwn ni godi o’r sefyllfa yma a gobeithio y gallwn ni gael canlyniad positif yn Everton i helpu’r broses o ddechrau gwyrdroi ein rhediad ni.”