Symbol o’r cofio, ac nid symbol gwleidyddol, yw’r pabi, yn ôl rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley, wrth ymateb i’r ffrae sy’n corddi rhwng corff rheoli FIFA a chymdeithasau pêl-droed Lloegr a’r Alban.
Mae Cymru’n herio Serbia ar Dachwedd 12, ac maen nhw wedi cael gwybod na fydd gan chwaraewyr yr hawl i wisgo’r pabi ar eu crysau.
Er bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gyndyn o leisio barn ar y mater ar hyn o bryd, mae cymdeithasau pêl-droed Lloegr a’r Alban wedi dweud y byddan nhw’n anwybyddu’r gwaharddiad ac yn gwisgo’r pabi.
Yn ôl FIFA, mae’r pabi’n “symbol gwleidyddol”. Ond yn ôl Bradley, symbol o’r cofio yw e mewn gwirionedd.
‘Rhan bwysig o’n magwraeth’
Yn fab i gyn-aelod o lynges yr Unol Daleithiau, mae Bob Bradley yn dweud fod yna bwysigrwydd ac arwyddocâd i’r pabi a’r cofio blynyddol.
“Symbol yw’r pabi. Sul y Cofio yw e, Diwrnod y Cadoediad, a hynny ar gyfer pobol sydd wedi aberthu eu bywydau dros eu gwlad. Mae’n golygu popeth i fi. Yn amlwg, mae’n rhan bwysig o’n magwraeth ni yn yr Unol Daleithiau.
“Dw i’n sicr wedi cwrdd â phobol a wasanaethodd yr Unol Daleithiau. Roedd fy nhad yn filwr gyda’r llynges adeg Rhyfel Corea.
“Mae hyn yn amlwg yn fwy perthnasol i’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, ond y peth pwysicaf i fi yw cael y cyfle i sefyll yn falch a chael symbol ar gyfer y rheiny a frwydrodd dros ryddid eu gwlad.”