Mae deiseb i geisio gwrthdroi penderfyniad corff pêl-droed FIFA i beidio gadael i chwaraewyr rhyngwladol wisgo pabi coch ar eu crysau, wedi ennyn cefnogaeth dros 200,000 o bobol.

Mae Cymru’n chwarae Serbia yng Nghaerdydd ar Dachwedd 12, a’r bwriad oedd i aelodau’r tîm wisgo crysau arbennig i goffau Dydd y Cadoediad (Tachwedd 11, 1918).

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi gofyn i FIFA am ganiatâd i’w chwaraewyr gael gwisgo’r pabi coch, ond ar hyn o bryd mae’r corff wedi gwahardd timau gwledydd Prydain rhag gwisgo symbolau ‘gwleidyddol, crefyddol neu fasnachol’.

Nid yw chwaraewyr timau’r Alban a Lloegr yn cael gwisgo’r symbol yn eu gêm nhw ar Dachwedd 11 chwaith, ond dadl y 200,000 o gefnogwyr yw nad yw’r pabi coch yn symbol gwleidyddol, ond o barch.

“All o ddim bod yn bellach o fod yn symbol gwleidyddol,” meddai awdur y ddeiseb, John Nichol, cyn-beilot gyda’r Llu Awyr. “Mae’n ddatganiad o gofio a chydnabyddiaeth o’r aberth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, hyd at aberthau dynion a merched y fyddin heddiw.”

Cynsail

Mae cefnogwyr Cymreig yn flin gan fod FIFA wedi caniatáu i chwaraewyr Cymru i wisgo pabi coch ar rwymyn du o amgylch y fraich yn 2011.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod carfan Chris Coleman wedi ymweld â chofebau’r Rhyfel Mawr yn y gorffennol ac roedd bwriad gwneud hyn eto yn y dyfodol.