Mae Aaron Ramsey a Jonny Williams wedi’u cynnwys yng ngharfan Cymru i wynebu Serbia yr wythnos nesa’. Mae’r ddau newydd ddychwelyd ar ôl anafiadau.

Llwyddodd Ramsey i chwarae am 75 munud neithiwr wrth i Arsenal guro Ludogorets yng Nghynghrair y Pencampwyr. Cyn neithiwr, doedd e ddim wedi chwarae i’w glwb ers diwrnod cyntaf tymor yr Uwch Gynghrair ym mis Awst, a hynny oherwydd iddo anafu llinyn y gâr.

Mae Joe Allen hefyd yn y garfan ar ôl colli’r gêm yn erbyn Moldofa.

Mae Cymru’n chwilio am fuddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Dachwedd 12, ar ôl dwy gêm gyfartal yn erbyn Awstria a Georgia.

Mae Cymru’n drydydd yn eu grŵp, tra bod Serbia ar y brig.

Carfan Cymru

W Hennessey, D Ward, O Fôn Williams; B Davies, J Chester, J Collins, P Dummett, C Gunter, N Taylor, A Williams (capten); J Allen, D Edwards, E Huws, A King, T Lawrence, J Ledley, S MacDonald, A Ramsey; G Bale, J Williams, D Cotterrill, H Robson-Kanu, S Vokes