Aaron Ramsey yn tanio dros Arsenal
Mae newyddiadurwr y London Evening Standard wedi beirniadu perfformiad Aaron Ramsey i Arsenal neithiwr wrth iddo ddechrau gêm am y tro cynta’ ers iddo ddychwelyd ar ôl anaf.

Am 11 o’r gloch y bore yma, fe fydd rheolwr Cymru, Chris Coleman yn cyhoeddi ei garfan i wynebu Serbia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.

Ond mae’r newyddiadurwr James Benge yn codi amheuon am ei le yn nhîm Arsenal heb sôn am haeddu ei le yn nhîm Cymru.

Yn ôl James Benge, roedd perfformiad Ramsey yn erbyn Ludogorets yng Nghynghrair y Pencampwyr – y gêm gyntaf iddo ei dechrau ers diwrnod cynta’r tymor hwn – ym Mwlgaria yn “ddiflas”.

Er hynny, roedd Ramsey yn chwarae ar yr asgell dde yn hytrach na’i safle arferol yng nghanol y cae.

Colli ei le cyn dydd Sul?

Mae James Benge yn awgrymu y gallai Aaron Ramsey golli ei le yn y tîm ar gyfer y gêm ddarbi yn erbyn Spurs ddydd Sul. Fe fyddai hynny yn rhoi llai o amser iddo brofi ei hun cyn gêm Cymru yn erbyn Serbia ymhen deng niwrnod.

“Does bosib nad oes gwell ffordd o brofi pwynt wrth Arsene Wenger na’r perfformiad diflas a gynigiodd yn Sofia,” meddai James Benge.

“Mae Ramsey i weld yn anhapus ar yr asgell dde, er iddo brofi ei hun yn y safle hwnnw ddiwedd y tymor diwetha’.”

Theo Walcott wedi creu argraff

Ond mae Theo Walcott wedi creu argraff yn yr un safle yn absenoldeb Aaron Ramsey.

Wrth gyfaddef fod Ramsey yn fwy cyfforddus yng nghanol y cae, mae James Benge yn dadlau bod Santi Cazorla a Mesut Özil yn well na’r Cymro yn y safle hwnnw.

Mae hefyd yn cyfeirio at y “diffyg awch” ym mhasio Aaron Ramsey, ond dyw hynny, meddai, “ddim yn cyfiawnhau ei fethiant i wneud ei waith – yn enwedig yn amddiffynol”.

Yn ei sylw mwyaf astrus, mae James Benge wedi beirniadu Ramsey am fethu â gwneud yn iawn am gamgymeriadau’r cefnwr de, Carl Jenkinson.

“Does dim amheuaeth y gwnaeth Carl Jenkinson stryglo, ond fe fyddai ei achos wedi cael ei helpu rywfaint pe bai Ramsey… wedi cynnig mwy o gymorth.”

Serch hynny, “dyw Ramsey ddim yn fethiant llwyr ar yr asgell dde” yn ôl James Benge, gan gyfeirio yn y paragraff olaf ond un at groesiad y Cymro a arweiniodd at gôl Olivier Giroud – “yr unig dro iddo gael effaith ar y gêm o’r safle hwnnw”.