Wrecsam 2–2 Barrow           
                                                             

Ildiodd Wrecsam gôl hwyr wrth i Barrow gipio pwynt ar y Cae Ras yng ngêm gyntaf Dean Keates fel rheolwr parhaol y Dreigiau.

Roedd y tîm cartref ddwy gôl i un ar y blaen gydag ychydig funudau i fynd yn y gêm Gynghrair Genedlaethol ond rhwydodd Ryan Yates i achub gêm gyfartal i’r ymwelwyr.

Peniodd Byron Harrison Barrow ar y blaen wedi dim ond naw munud o gic gornel Jordan Evans.

Roedd hi’n gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf serch hynny diolch i beniad Curtis Tilt o groesiad John Rooney.

Rhoddodd Ronney ei dîm ar y blaen gydag ergyd wych ddeuddeg munud o ddiwedd y naw deg ond manteisiodd Yates ar amddiffyn gwael i unioni pethau ddeg munud yn ddiweddarach.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.

.

Wrecsam

Tîm: Jalal, Edwards, Bencherif, Smith (Nortley 83’), Evans, Tilt, Carrington, Rooney, McDonagh, Harrad, Powell

Goliau: Tilt 25’, Rooney 78’

Cerdyn Melyn: Powell 58’

.

Barrow

Tîm: Dixon, Beeley, Wilmer-Anderton, Turnbull (Harvey 57’), Diarra, Livesey, Hughes (Wright 64’), Yates, Bennett (Hannah 74’), Harrison, Williams

Goliau: Harrison 9’, Yates 88’

Cerdyn Melyn: Beeley 21’

.

Torf: 3,616