Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn deall bod y clwb yn cynrychioli Cymru yn yr Uwch Gynghrair.

Ar ôl colli yn erbyn Arsenal yn Stadiwm Emirates y penwythnos diwethaf, y gêm yn erbyn Watford ddydd Sadwrn fydd gêm gyntaf yr Americanwr wrth y llyw yn Stadiwm Liberty.

Ond hyd yn oed gyda buddugoliaeth dros Watford, dydyn nhw ddim yn sicr o godi allan o’r safleoedd disgyn y penwythnos hwn.

Mae statws yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair eisoes mewn perygl ar ôl iddyn nhw ennill pedwar pwynt yn unig yn eu wyth gêm gyntaf a cholli pedair gêm o’r bron.

Ac mae Bradley’n cyfaddef fod y cefnogwyr yn disgwyl gwell.

Dywedodd Bradley wrth Golwg360: “Does gyda fi ddim car eto a dw i wedi cael amryw o bobol yn fy ngyrru i gyfeiriadau gwahanol.

“Mae gan bob un berspectif ynghylch yr hyn mae Abertawe’n ei olygu [iddyn nhw] ac wrth gwrs, yr hyn mae’n ei olygu i fod yr unig glwb o Gymru yn yr Uwch Gynghrair.”

Mae’n cyfaddef fod pwysau ychwanegol ar y tîm hefyd wrth i ddisgwyliadau’r genedl godi ar ôl ymgyrch llwyddiannus Cymru yn Ewro 2016.

Ond mae’r Americanwr yn hen gyfarwydd â’r fath bwysau ar ôl arwain yr Unol Daleithiau yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica yn 2010, lle wynebon nhw Loegr yn eu grŵp.

“Gyda’r llwyddiant gafodd Cymru yn yr Ewros ac wrth gwrs nawr yn yr ymgyrch i gymhwyso [ar gyfer Cwpan y Byd 2018], fe gafodd [pwysigrwydd pêl-droed i bobol Abertawe] ei grisialu i fi un diwrnod.

“Fe ddywedodd rhywun wrtha i, “Os yw pobol yn gwneud i ti deimlo fel pe na baen nhw’n dy gefnogi di, cofia yn Rustenburg pan wnaethoch chi chwarae yn erbyn Lloegr yn y gêm gyntaf yn 2010, ein bod ni i gyd [yng Nghymru] y tu ôl i ti bryd hynny!”

‘Mae eich angen chi arnon ni’

Ac fe apeliodd yn uniongyrchol am gefnogaeth gan yr 20,000 fydd yn bresennol ddydd Sadwrn.

“Mae hon yn gêm gartref bwysig. I bawb yn y Liberty ddydd Sadwrn, mae wirioneddol eich angen chi arnon ni.

“Mae eu hangen nhw. Ry’n ni ynddi gyda’n gilydd. Os ydyn ni’n gweithio yn y ffordd gywir ac yn deall beth maen nhw’n chwilio amdano fe a’n bod ni’n cael hynny’n gywir, mae’n siarad drosto’i hun wedyn.”