Mae chwaraewr canol cae Arsenal a Chymru, Aaron Ramsey yn ymarfer unwaith eto ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.

Ond mae’n annhebygol y bydd e’n holliach i wynebu Abertawe yn Stadiwm Emirates ddydd Sadwrn.

Dydy’r Cymro ddim wedi chwarae i’w glwb na’i wlad ers diwrnod cyntaf tymor yr Uwch Gynghrair ar Awst 14.

Roedd disgwyl na fyddai ar gael am dair wythnos, ac mae e wedi colli gemau Cymru yn erbyn Moldofa, Awstria a Georgia eisoes.

Mae amheuon bellach a fydd e ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Serbia fis nesa’.

Fe fu anaf Ramsey eisoes yn destun ffrae rhwng rheolwr Cymru a rheolwr Arsenol, ar ôl i Chris Coleman awgrymu y gellid fod wedi osgoi’r anaf.

Nid dyma’r ffrae gynta’ rhwng y ddau tros Ramsey ychwaith, pan gafodd Coleman yntau ei gyhuddo o achosi anaf Ramsey drwy ei alw i garfan Cymru.