Fe fydd tîm pêl-droed Cymru yn chwarae Awstria heno yn yr ymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpwn y Byd 2018 yn Rwsia.

Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman, “Fe gafodd Awstria ymgyrch ffantastig  cyn cyrraedd yr Ewros ond dim ond heno sy’n bwysig rwan. Mae o i gyd i wneud efo pwy sy’n barod.”

Ond fe fydd Cymru heb un o’i chwaraewyr blaenllaw, Aaron Ramsey ar gyfer y gwrthdaro yn Awstria.

“Mae’r pwysau arnyn nhw i gael tri phwynt,” meddai Chris Coleman. “Rydan ni eisiau ennill hefyd, ac rydan ni’n gweld Awstria fel her.”

Wrth i 4,000 o gefnogwyr Cymru dyrru i Fienna heno, dywedodd Capten Cymru, Ashley Williams y bydd y wal goch yn hwb iddyn nhw yn Ernst Happel Stadion: “Mae’r cefnogwyr yn grêt. Maen nhw’n gwybod ein bod yn eu gwerthfawrogi. Ar adegau pan ydan ni angen hwb, maen nhw’n rhoi’r hwb inni.”

Gemau blaenorol

Mae Awstria a Chymru wedi chwarae eu gilydd 9 o weithiau i gyd. Mae Awstria wedi bod yn fuddugol chwe o weithiau, gyda Chymru wedi ennill dwy yn unig.

Y tro diwethaf i Gymru chwarae Awstria oedd yn 2011 pan enillodd Gymru gartref. Fel chwaraewr, fe enillodd Chris Coleman ei gap cynta’ mewn gêm gyfartal yn erbyn Awstria yn 1992.