Roedd llwyddiant tim pel-droed Cymru ym mhencampwriaeth Ewros 2016 yn Ffrainc eleni, yn mynd tu hwnt i fyd chwaraeon, meddai Dafydd Iwan.

A dyna pam ei fod wedi recordio neges yn dymuno’r gorau i garfan Chris Coleman yn erbyn Awstria yn Fienna heno.

Roedd newydd dreulio awr yn canu i theatr rwydd lawn yn Galeri, Caernarfon, cyn recordio’r cyfarchiad hwn i golwg360: