Marcel Koller, rheolwr tîm pêl-droed Awstria
Mae hyfforddwr tîm pêl-droed Awstria, Marcel Koller, yn credu bod Cymru wedi bod yn “lwcus” i gyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016.
Bydd Cymru yn chwarae Awstria mewn rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 nos yfory, ac ychwanegodd Koller ei fod yn credu y gall ei dîm ennill y gêm yn erbyn y crysau cochion yn Fienna.
“Fe fydd hi’n gêm agos yfory, ond rwy’n meddwl y gallwn ni ennill y gêm,” meddai Marcel Koller yn ei gynhadledd i’r wasg heddiw.
“Ond mae angen dipyn o lwc yn ogystal. Dyna beth welson ni yn yr Ewros.”
Siom i Awstria yn Ffrainc
Er iddyn nhw gael ymgyrch ragbrofol lwyddiannus heb golli’r un gêm, siomedig oedd y bencampwriaeth yn Ffrainc i Awstria ac fe fethodd y tîm â mynd yn bellach na’r gemau grŵp.
Mae Cymru ac Awstria wedi dechrau eu hymgyrch i Gwpan y Byd gydag un fuddugoliaeth yr un. Fis diwethaf, fe gurodd Awstria 2-1 yn erbyn Georgia tra bod Cymru wedi chwalu Moldofa 4-0 yng Nghaerdydd.
Mae Cymru’n teithio i Awstria heb Aaron Ramsey tra bod Awstria heb ymosodwr Hannover 96, Martin Harnik.