Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi mai Neil Warnock yw eu rheolwr newydd.
Cafodd Paul Trollope ei ddiswyddo fore ddoe ar ôl pum mis yn y swydd.
Mae Kevin Blackwell a Ronnie Jepson, fu’n cydweithio â Neil Warnock yn Rotherham, hefyd wedi ymuno â’r Adar Gleision.
Daeth cyfnod Warnock yn Rotherham i ben ddiwedd y tymor diwethaf ar ôl iddyn nhw lwyddo i aros yn y Bencampwriaeth.
Bydd Warnock yn cael ei gyflwyno i’r wasg fore dydd Iau, ac fe fydd yn gyfrifol am y tîm am y tro cyntaf ar Hydref 14 wrth i Gaerdydd herio Bristol City.
Mae’r Adar Gleision ar waelod y Bencampwriaeth ar ôl ennill wyth pwynt yn unig yn eu 11 gêm gyntaf.