Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi diswyddo’r rheolwr Warren Feeney ar ôl wyth mis yn unig.

Cafodd ei benodi’n olynydd i John Sheridan ym mis Ionawr, ar ôl bod yn is-reolwr am dri mis cyn hynny.

Dim ond unwaith y mae’r tîm wedi ennill yn yr Ail Adran y tymor hwn, ac maen nhw ar waelod y tabl.

Mae’r is-reolwr Colin Todd hefyd wedi gadael y clwb, ac fe fydd James Bittner a Sean McCarthy yn gyfrifol am y tîm wrth iddyn nhw herio Stevenage ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad, diolchodd y clwb i Feeney, ond fe ddywedon nhw eu bod nhw’n teimlo bod newid y rheolwr yn angenrheidiol.