Grimsby 1–0 Casnewydd              
                                                   

Llithrodd Casnewydd i waelod yr Ail Adran wrth golli yn erbyn Grimsby oddi cartref ar Barc Blundell nos Fawrth.

Roedd cic o’r smotyn hwyr Omar Bogle yn ddigon i’r tîm cartref ar noson siomedig i’r ymwelwyr o dde Cymru.

Wedi 87 munud di sgôr fe gafodd Tom Bolarinwa ei lorio yn y cwrt cosbi gan Dan Butler. Cafodd Joe Day ei guro o’r smotyn gan Bogle a doedd dim digon o amser i’r Alltudion daro nôl.

Yn hytrach, mae tîm Warren Feeney, oherwydd buddugoliaeth Caergrawnt yn erbyn Yeovil, yn llithro i waelod tabl yr Ail Adran gyda dim ond chwe pwynt o’u naw gêm gyntaf.

.

Grimsby

Tîm: McKeown, Davies, Collins, Pearson, Andrew, Chambers (Bolarinwa 72’), Summerfield, Comley, Vose (Boyce 89’), Bogle, Jackson (Tuton 72’)

Gôl: Bogle [c.o.s.] 88’

Cardiau Melyn: McKeown 59’, Bogle 89’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Bignot, Cameron, Bennett, Butler, Grego-Cox (Myrie-Williams 90+2’), Randall, Tozer, Rigg, Parkin, Healey (Jackson 69’)

Cardiau Melyn: Bennett 35’, Parkin 59’, Tozer 77’

.

Torf: 4,296