Macclesfield 3–0 Wrecsam    
                                                        

Ildiodd Wrecsam dair gôl wrth golli yn erbyn Macclesfield ar Moss Rose yn y Gynghrair Genedlaethol nos Fawrth.

Sgoriodd Danny Whitaker ddwy o bobtu i un gan Paul Lewis wrth i’r tîm cartref ennill yn gyfforddus.

Rhwydodd Whitaker ei gyntaf ddeg munud cyn yr egwyl cyn i Lewis ddyblu’r fantais ddau funud ar ôl troi. Ychwanegodd Whitaker ei ail ef a thrydedd ei dîm yn fuan wedyn i sicrhau’r tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol ac yn rhoi cryn amheuaeth dros ddyfodol Gary Mills wrth y llyw ar y Cae Ras.

.

Macclesfield

Tîm: Flinders, Halls, Byrne, Lewis, Pilkington, Hancox, McCombe, Rowe (Mackreth 82’), James, Whitaker, Holroyd (Sampson 72’)

Goliau: Whitaker 35’, 53’, Lewis 47’

.

Wrecsam

Tîm: Jalal, Tilt, Newton, Bencherif, Edwards (Harrad 46’), Evans, Carrington, Ronney (Powell 54’), Rutherford, Evans, Bakare (McDonagh 46’)

.

Torf: 1,579