Mae prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Alan Curtis wedi dweud bod marwolaeth Mel Charles yn “golled drist iawn, iawn” i Abertawe ac i’r byd pêl-droed.

Bu farw’r cyn-chwaraewr 81 oed mewn cartref gofal yn Abertawe nos Sadwrn.

Chwaraeodd mewn 233 o gemau i’r Elyrch, gan ennill 31 o gapiau dros Gymru.

Dywedodd Curtis wrth wefan Clwb Pêl-droed Abertawe: “Roedd Mel yn rhan o deulu chwaraeon enfawr yn Abertawe.

“Nid yn unig roedd e’n bêl-droediwr uchel iawn ei barch, roedd e hefyd yn gymeriad gwych oedd yn mwynhau bywyd i’r eithaf. Roedd pawb wrth eu bodd yn ei gwmni.

“Does dim amheuaeth y bydd e’n cael ei gofio fel un o chwaraewyr gorau erioed Abertawe a Chymru ac fe fydd e nawr yn ymuno â’r tîm pêl-droed gwych hwnnw yn y nefoedd.”

Ychwanegodd un o’i gyfoedion ac un arall o drigolion Abertawe, Mel Nurse: “Cawson ni ein magu gyda’n gilydd ynghyd â’i frawd John.

“Aethon ni i ysgolion Cwmbwrla a Threfansel. Wnes i ei ddilyn e ar y cae ac oddi arno. Bydda i’n gweld ei eisiau fe.

“Roedd e’n gymeriad mawr – mae Abertawe wedi colli un o’i mawrion.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran y clwb: “Ry’n ni’n flin iawn o glywed am golli un o fawrion y clwb a gŵr bonheddig.”