Rotherham 1–2 Caerdydd         
                                                      

Sgoriodd Ricky Lambert ddwy gôl hwyr wrth i Gaerdydd gipio tri phwynt yn erbyn Rotherham yn Stadiwm New York brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Isaiah Brown y tîm cartref ar y blaen ar yr awr ond sgoriodd Lambert ddwy waith yn y deunaw munud olaf i sicrhau buddugoliaeth brin i’r Adar Gleision.

Gwnaeth Ben Amos yn dda yn y gôl i Gaerdydd i’w chadw hi’n ddi sgôr wrth i Rotherham gael y gorau o’r hanner cyntaf.

Roedd y gôl-geidwad wedi ei guro ar yr awr serch hynny wrth i’w amddiffyn fethu ag ymdopi â thafliad hir Greg Halford cyn i’r bêl dasgu i Brown yn y cwrt cosbi am gôl syml.

Wnaeth yr Adar Gleision ddim rhoi’r ffidl yn y to ac roeddynt yn gyfartal ddeunaw munud o’r diwedd diolch i beniad Lambert o gic rydd Peter Wittingham.

Cipiodd Lambert y tri phwynt i’w dîm chwe munud yn ddiweddarach wrth i’w ergyd wyro oddi ar amddiffynnwr i gefn rhwyd Rotherham.

Rotherham

Tîm: Camp, Fisher, Fry, Wilson, Mattock, Wilson, Frecklington, Halford, Newell (Blackstock 82’), Taylor, Ward, Brown

Gôl: Brown 60’

Cerdyn Melyn: Halford 81’

.

Caerdydd

Tîm: Amos, Peltier (Ecuele Manga 88’), Morrison, Connolly, Richards, O’Keefe, Noone, Immers, Wittingham, Ralls (Harris 70’), Lambert

Goliau: Lambert 73’, 79’

Cardiau Melyn: O’Keefe 30’, Connolly 69’

.

Torf: 8,348