Wrecsam 0–0 Caer          
                                                                   

Di sgôr oedd hi yn y darbi rhwng Wrecsam a Chaer yn y Gynghrair Genedlaethol ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Y Cymry a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond gwastraffodd Michael Bakare ddau gyfle da i benio’r tîm cartref ar y blaen.

Roedd hi’n ddarbi danllyd ar adegau a gallai John Rooney yn hawdd fod wedi cael cerdyn coch i Wrecsam, ond llwyddodd y ddau dîm i gadw un dyn ar ddeg ar y cae.

Ni chafwyd cystal cyfleoedd o flaen gôl wedi’r egwyl a bu rhaid i’r ddau dîm fodloni ar bwynt yr un, canlyniad gwell i Gaer na Wrecsam efallai.

Un cysur i’r Dreigiau serch hynny yw’r ffaith fod y pwynt yn ddigon i’w cadw yn y trydydd safle ar ddeg yn y tabl am y tro, un lle yn uwch na’r arch elyn o dros y ffin.

.

Wrecsam

Tîm: Jalal, Newton, Riley, Bencherif, Rooney, Tilt, Carrington, Rutherford (Powell 82’), R. Evans, Harrad (J. Evans 38’), Bakare (McDonagh 90’)

Cardiau Melyn: R Evans 14’, Rooney 42’, Carrington 80’

.

Caer

Tîm: Roberts, Vassell, Hudson, Shaw, Hunt, Astles, Durrell (Hughes 90’), Lloyd, Mahon, Alabi (Chapell 79’), Richard (Akintunde 90’)

Cardiau Melyn: Hunt 90’, Astles 90’

.

Torf: 5,058