Aleksander Ceferin o Slofenia yw llywydd newydd UEFA yn lle Michel Platini, sydd wedi’i wahardd o’r byd pêl-droed ers mis Rhagfyr y llynedd.

Cafodd Aleksander Ceferin, cyfreithiwr 48 oed, ei ethol o 42 o bleidleisiau i 13 wrth iddo sefyll yn erbyn Michael van Praag o’r Iseldiroedd mewn etholiad yn Athen.

Ceferin yw seithfed llywydd y corff sy’n gyfrifol am y byd pêl-droed yn Ewrop, ac fe fydd yn cwblhau tymor Michel Platini – dwy flynedd a hanner – cyn dechrau ar dymor newydd.

Bu Platini wrth y llyw ers 2007, ac fe gafodd ganiatâd arbennig gan bwyllgor moesau FIFA i annerch y cyfarfod i ethol ei olynydd er gwaetha’r gwaharddiad o bedair blynedd.

Yn ystod ei anerchiad, dywedodd Michel Platini unwaith eto ei fod yn ddieuog o unrhyw drosedd.

“Rwy’n sicr nad ydw i wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau a byddaf yn parhau i frwydro yn erbyn hyn yn y llysoedd.

“Byddwch chi’n parhau â’r gorchwyl hyfryd yma hebdda i am resymau na wnaf fi iddyn nhw.

“Dydw i ddim yn dal dig yn erbyn unrhyw un na wnaeth fy nghefnogi – mae gan bawb yr hawl i gredu’r hyn a fynno. Ond dyw hynny ddim yn bwysig, yr hyn sy’n bwysig yw pêl-droed.”