Ian Rush yn gafael yn dynn yng nghwpan Cynghrair y Pencampwyr
Fe fydd tlws Cynghrair y Pencampwyr (UEFA) yn cael ei arddangos yng ngogledd Cymru ddydd Sadwrn.

Gall cefnogwyr pêl-droed yr ardal fynd i weld tlws fwyaf eiconig y byd pêl-droed rhwng 10:00 a 15:00 ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn.

Ymhen naw mis, fe fydd dau dîm gorau Ewrop yn teithio i brifddinas Cymru i gystadlu yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr.

Dyma’r eildro i UEFA gynnal un o’i gemau yng Nghrymu, ar ôl i Manchester City guro’r Seintiau Newydd 2-0 mewn gem ragbrofol yn 2002.

‘Braint’

Cyn-chwaraewr Cymru, Ian Rush, yw llysgennad swyddogol y ffeinal a gydag yntau wedi cael ei eni ychydig filltiroedd o Fae Colwyn, dywedodd fod y digwyddiad yn hwb anferth i bêl-droed Cymru.

“Mae’n fraint enfawr i Gymru gael cynnal ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, nid yn unig yn nhermau pêl-droed gan y bydd ‘na nifer o fuddiannau i’r wlad gyfan.”

Fe gafodd y tlws ei arddangos yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwetha’.