Jake Charles, wyr John Charles (Llun: Twitter)
Doedd gôl hwyr gan Jake Charles – ŵyr un o gewri Cymru, John Charles – ddim yn ddigon i achub tîm pêl-droed dan 21 Cymru wrth iddyn nhw fynd allan o Bencampwriaethau Ewrop yn Stadiwm Prifysgol Bangor nos Fawrth.

Sicrhaodd gôl Charles fod Cymru’n cael un pwynt yn erbyn Lwcsembwrg.

Roedden nhw eisoes wedi colli’r cyfle i gymhwyso’n awtomatig ar ôl colli o 4-0 yn erbyn Denmarc yn eu gêm flaenorol.

Aeth Lwcsembwrg ar y blaen diolch i gôl gan Kevin Kerger cyn i Jake Charles unioni’r sgôr ar ôl 89 munud.

Cafodd Lwcsembwrg gic o’r smotyn yn gynharach yn yr ail hanner ar ôl i Tom Lockyer lawio’r bêl, ond cafodd ergyd Ricardo Pinto ei harbed gan Billy O’Brien yn y gôl.

Daeth cyfle arall i Gymru ychydig cyn gôl Charles, wrth i Gethin Jones daro’r trawst.

Ond daeth y gôl yn rhy hwyr i Gymru yn y pen draw, a doedd pwynt ddim yn ddigon i’w cadw nhw yn y gystadleuaeth.