Mae rheolwr carfan bêl-droed dan 21 Cymru, Geraint Williams, wedi cyfaddef y bydd yn rhaid i’r tîm wneud yn well os ydyn nhw am gadw eu breuddwyd Ewro 2017 yn fyw.

Ar ôl colli i Romania nôl ym mis Mawrth, mae gan y tîm dasg anodd i gyrraedd y bencampwriaeth yng Ngwlad Pwyl yr haf nesaf.

Mae’r ddwy gem nesaf – yn erbyn arweinwyr y grŵp Denmarc yn Wrecsam nos Wener ac yn erbyn Lwcsembwrg ym Mangor ddydd Mawrth – yn rhai tyngedfennol i’r garfan.

Mae Denmarc ar hyn o bryd pedwar pwynt yn glir ar frig y tabl gydag un gêm mewn llaw felly mae buddugoliaeth yn Wrecsam yn hanfodol os yw Cymru am gadw eu huchelgais o orffen fel ar ben y grŵp.

Ond fe allan nhw sicrhau lle yn y gemau ail gyfle trwy orffen yn uwch na Rwmania sy’n ail a gyda thri pwynt yn fwy na Cymru ar hyn o bryd.