Mae West Brom wedi cadarnhau bod Rickie Lambert wedi symud i Gaerdydd ar gytundeb dwy flynedd.

Dydy’r ffi trosglwyddo ddim wedi cael ei ddatgelu.

Symudodd Lambert i West Brom o Lerpwl haf diwethaf, gan ddechrau pump o gemau a dod oddi ar y fainc 14 o weithiau.

Mae Caerdydd yn ail ar bymtheg yn y Bencampwriaeth.

Daw trosglwyddiad Lambert ar ôl i West Brom arwyddo Hal Robson-Kanu yn rhad ac am ddim.

Mae’r ffenest drosglwyddo bellach wedi cau.