Mae Wigan wedi arwyddo ymosodwr Caerdydd, Adam Le Fondre ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Dydy Le Fondre ddim wedi chwarae i’r Adar Gleision ers mis Ionawr y llynedd, gan dreulio cyfnodau ar fenthyg gyda Bolton a Wolves.

Mae e wedi sgorio 163 o goliau yn ystod ei yrfa.