Mae cystadleuaeth Ewro 2016 a dechrau ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn peri pen tost i reolwr Abertawe, Francesco Guidolin.

Ar ôl colli’r capten Ashley Williams i Everton, dydy un arall o’r amddiffynwyr, Neil Taylor ddim wedi dechrau’r un gêm eto yn yr Uwch Gynghrair.

Ac mae Guidolin wedi cyfaddef dros yr wythnosau diwethaf mai’r unig reswm y mae Gylfi Sigurdsson yn chwarae – er iddo gynrychioli Gwlad yr Iâ yn Ewro 2016 – yw diffyg opsiynau’r Elyrch yn safle’r blaenwr.

Fe wnaeth Taylor ei ymddangosiad cyntaf yng nghwpan yr EFL yn erbyn Peterborough. Er iddo lwyddo i chwarae am y 90 munud, does dim dwywaith na fyddai’r lefel honno o bêl-droed wedi ei baratoi am yr her o chwarae yn yr Uwch Gynghrair.

Roedd cefnwr chwith yr Elyrch ar y cae bob munud o bob gêm i Gymru yn Ffrainc – gan sgorio’i gôl ryngwladol gyntaf – ac mae hynny wedi cael effaith ar Taylor, sydd nawr yn brwydro i fod yn barod ar gyfer gêm Abertawe yn erbyn Chelsea ar Fedi 11.

Yn hytrach na theithio i Gaerlŷr ddydd Sadwrn, mae Taylor wedi gofyn am gael chwarae yn nhîm dan 23 yr Elyrch yn erbyn West Ham ddydd Gwener yn y gobaith o godi ei lefelau ffitrwydd.

Er bod Guidolin i’w weld yn fodlon ar y trefniant hwnnw am y tro, dim ond chwe niwrnod fydd gan Taylor ar ôl y gêm yn erbyn Moldofa i brofi ei ffitrwydd cyn y gêm yn erbyn Chelsea.

Ddechrau mis Hydref, mae gan Gymru gemau rhagbrofol yn erbyn Awstria a Georgia, sy’n ei gwneud hi’n debygol na fydd Taylor ar gael ar gyfer gemau Abertawe yn erbyn Lerpwl ac Arsenal.

Ac mae Guidolin yn cyfaddef fod y cyfnod rhyngwladol bryd hynny’n anghyfleus i’r Elyrch.

“Mae’r toriad rhyngwladol yn broblem oherwydd nid yn unig y mae gêm, ond hefyd mae’r teithio ac i reolwr, dyw e ddim yn gyfnod da.

“Allwch chi ddim gweithio gyda’r chwaraewyr, rhaid i chi aros a gobeithio nad oes yna anafiadau.

“Yn aml, mae chwaraewyr yn dod yn ôl ddau neu dri diwrnod cyn y gêm. Dydy hynny ddim yn dda i reolwyr.”