Francesco Guidolin (Llun: Roberto Vicario/CC3.0)
Mae’r Elyrch drwodd i drydedd rownd Cwpan yr EFL ar ôl iddyn nhw guro Peterborough oddi cartref o 3-1 nos Fawrth.

Oliver McBurnie, sy’n 20 oed, oedd y seren ar y noson wrth iddo fe sgorio dwy gôl o fewn dwy funud yn ei gêm gyntaf i’r clwb, a hynny ar ôl i’r rheolwr Francesco Guidolin wneud deg newid i’r tîm a gollodd o 2-0 yn erbyn Hull yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Aeth yr Elyrch ar y blaen ar ôl 15 munud, wrth i’r chwaraewr canol cae Jay Fulton benio’r bêl i gefn y rhwyd.

Daeth dwy gôl McBurnie ar ôl 41 a 44 munud i roi mantais o 3-0 i Abertawe erbyn hanner amser.

Tarodd Peterborough yn ôl gyda chwarter awr o’r gêm yn weddill, a hynny drwy ergyd bell gan Leonardo Da Silva Lopes.

Ond mewn gwirionedd, dydy’r canlyniad ddim yn dangos maint bygythiad Abertawe’n llawn, ar ôl i Jefferson Montero ddod yn agos â sawl ergyd.

Fe darodd y trawst yn gynnar yn yr ornest cyn ei tharo hi i gyfeiriad Fulton ar gyfer y gôl gyntaf.

Peterborough: Tyler, Smith, Bostwick, Almeida Santos, Hughes, Maddison, Forrester (Chettle), Anderson (Da Silva Lopes), Edwards, Taylor (Coulthirst), Nichols

 

Goliau: Da Silva Lopes (75)

 

Abertawe: Nordfeldt, Rangel, Amat (Fernandez), van der Hoorn, Taylor, Britton (Fer), Fulton, Dyer, Ki Sung-yueng, Montero, McBurnie (Llorente)

 

Goliau: Fulton (15), McBurnie (41, 44)

 

Torf: 4,727