Talodd Aston Villa deyrnged i’w cyn-ymosodwr Dalian Atkinson cyn eu gêm yn erbyn Huddersfield yn y Bencampwriaeth yn Villa Park nos Fawrth.

Bu farw Atkinson, 48, ar ôl i’r heddlu ddefnyddio gwn taser arno yn dilyn ffrae yng nghartref ei dad yn Telford, Sir Amwythig.

Mae’r achos wedi’i drosglwyddo i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu ar ôl i Atkinson gael trawiad ar y galon ar ei ffordd i’r ysbyty, ond daeth cadarnhad na fydd unrhyw blismon yn cael ei gosbi mewn perthynas â’r digwyddiad.

Roedd Atkinson yn gymeriad poblogaidd ymhlith cefnogwyr Aston Villa, ac roedd yn adnabyddus am ei ddathliad gydag ymbarel ar ôl sgorio gôl enwog yn erbyn Wimbledon.

Cyn y gêm, cafodd y gôl enwog ei dangos ar sgrîn fawr, ac fe gafwyd teyrnged iddo ar ôl 10 munud i nodi’r ffaith mai rhif 10 a wisgai ar ei gefn i’r clwb.

Roedd rhai cefnogwyr yn dal ymbarel ar gyfer y deyrnged, ond roedd y clwb wedi gwrthod ceisiadau gan gefnogwyr ar y cyfan i fynd ag ymbarel i mewn i’r stadiwm gyda nhw.

Cymry’n chwarae

Roedd nifer o Gymry’n chwarae yn y gêm, a orffennodd yn gyfartal 1-1 – James Chester i Aston Villa a Danny Ward yn y gôl i Huddersfield.

Ross McCormack, gynt o Gaerdydd, sgoriodd y gôl i Aston Villa yn yr hanner cyntaf oddi ar groesiad gan Jack Grealish.

Michael Hefele sgoriodd y gôl i unioni’r sgôr gyda phedair munud o’r gêm yn weddill.